Tétouan
| Math | cymuned drefol Moroco, dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 422,757 |
| Cylchfa amser | CET |
| Gefeilldref/i | Santa Fe, Granada |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Talaith Tétouan |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 90 metr |
| Cyfesurynnau | 35.569796°N 5.374692°W |
| Cod post | 93000 |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
| Manylion | |

Dinas yng ngogledd Moroco yw Tétouan (enw Berber sy'n golygu "llygaid", Arabeg: تطوان, Sbaeneg: Tetuán; weithiau hefyd Tettawen neu Tettawin yn lleol). Dyma unig borthladd Moroco ar lan y Môr Canoldir, sy'n gorwedd rhai milltiroedd i'r de o Gulfor Gibraltar a thua 40 milltir (60 km) i'r de-ddwyrain o Tanger ac i'r de o alldir Sbaenaidd Ceuta. Mae'n ganolfan weinyddol yr ardal o'r un enw, sy'n rhan o ranbarth Tanger-Tétouan. Poblogaeth: 320,539 (cyfrifiad 2004). Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Sania Ramel.
Mae'n un o'r ychydig leoedd ym Moroco a'r Maghreb gyda chymuned bur sylweddol o Gristnogion. Tan y 1950au bu cymuned sylweddol o Iddewon yma hefyd, a ffôdd gyda'r Morisgiaid Arabaidd o Al-Andalus yn Sbaen yn y 15g. Arabeg yw'r iaith gyffredin ond mae lleiafrif yn siarad un o'r ieithoedd Berber ac mae Ffrangeg a Sbaeneg yn ail ieithoedd i nifer o bobl dosbarth canol hefyd.
Yn gorwedd ym mhen gogleddol eithaf mynyddoedd y Rif, mae'r ddinas yn gorwedd rhwng y mynyddoedd hynny a'r môr. Mae'r wlad oddi amgylch yn dir amaethyddol da lle tyfir ffrwythau a llysiau.
Mae medina (hen ddinas) Tétouan wedi ei dynodi gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]Enwogion
[golygu | golygu cod]- Abdessadeq Cheqara (1931-1998), canwr
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan y ddinas Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback

