close
Neidio i'r cynnwys

Groeslon

Oddi ar Wicipedia
Groeslon
BERJAYA
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth880 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.07°N 4.28°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH472558 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng nghymuned Llandwrog, Gwynedd, Cymru, yw Y Groeslon[1] neu Groeslon[2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn Nyffryn Nantlle gerllaw priffordd yr A487 rhwng Caernarfon a Phen-y-groes, ac ychydig i'r gorllewin o bentref Carmel a bryn Moel Tryfan. Hyd yn ddiweddar roedd yr A487 yn mynd trwy'r pentref, ond yn 2002 agorwyd ffordd osgoi newydd.

Tyfodd y Groeslon fel pentref i'r gweithwyr yn y chwareli llechi yn yr ardal. Datblygodd y pentref yn sgil agor gorsaf reilffordd yr LMS yn 1867. O'r Groeslon roedd y dramodydd John Gwilym Jones a'r bardd Tom Huws yn enedigol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]