close
Neidio i'r cynnwys

Tesla (uned)

Oddi ar Wicipedia
Tesla
BERJAYA
Enghraifft o:System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned ddeilliadol UCUM, uned ddwysedd fflwcs magnetig Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/03rhvb edit this on wikidata
Mae'r erthygl hon yn trafod yr uned fagnetig; am y cwmni ceir trydan, gweler: Tesla (cwmni ceir)

Uned o fewn y System Ryngwladol o Unedau sy'n ymwneud â'r maes magnetig yw'r tesla.

Mae'r tesla'n mesur yr un faint ag un 'weber' y fetr sgwâr. Cyhoeddwyd yr uned hon yng Nghynhadledd Cyffredinol Pwysau a Mesur yn 1960.

Diffiniad

[golygu | golygu cod]

Mae gronyn sy'n cario gwefr o un coulomb, ac sy'n pasio drwy maes magnetig o un tesla, ar gyflymder o un fetr yr eiliad, a hynny'n unionsgwar i'r maes hwnnw - dan bwysau o un Newton, yn ôl deddf grymoedd Lomentz. Fel uned SI, gellir mynegi tesla fel hyn:

[1]
A = amper
C = coulomb
kg = cilogram
m = metr
N = newton
s = eiliad
H = henry
T = tesla
V = folt
J = joule
Wb = weber

Yr enw

[golygu | golygu cod]

Mae'r uned wedi'i henwi er anrhydedd y peiriannydd trydanol o dras Serbaidd Nikola Tesla (1856–1943) a ddyfeisiodd y system fodern o gerrynt eiledol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. The International System of Units (SI), 8th edition, BIPM, eds. (2006), ISBN 92-822-2213-6, Table 3. Coherent derived units in the SI with special names and symbols Archifwyd 2007-06-18 yn y Peiriant Wayback