Zaynub Akbar
| Zaynub Akbar | |
|---|---|
| Ganwyd | 24 Mehefin 1997 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | trampoline gymnast, gwleidydd |
| Swydd | Aelod o 7ed Senedd Cymru |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Gwleidydd o Gymru sy'n aelod o Blaid Cymru yw Zaynub Akbar (ganwyd Mehefin 1997)[1]. Mae hi'n un o Aelodau'r Senedd dros etholaeth Caerdydd Fynnon Taf ers Mai 2026.[2]. Bu hefyd yn drampolinydd yn ei harddegau.
Magwraeth ac addysg
[golygu | golygu cod]Daeth taid Zaynub Akbar i Gymru o India a dechreuodd weithio fel un o yrrwyr tacsi cynta'r ddinas.[3] Roedd ei thad, a aned yn nhlodi dociau Caerdydd, hefyd yn yrrwr tacsi. Magwyd hi gan ei thad a threuliodd y rhan fwyaf o'i phlentyndod yn ddigartref gan fyw o le i le, yng nghartrefi cyfeillion.[3]
Aeth Akbar i Ysgol Howell's, ysgol breifat yn Llandaf, Caerdydd wedi iddi dderbyn nawdd (bwrsari).[4] Nododd mewn cyfweliad i'r athrawon yno fod yn hynod o gefnogol iddi, ond dim ond llond llaw o'r disgyblion oedd yn gwybod beth oedd ei hamgylchiadau personol.[5]
Yn 10 oed, cynrychiolodd Gymru mewn gymnasteg, ac yn 16 oed, cynrychiolodd Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf Ieuenctid 2014, lle cyrhaeddodd rownd derfynol y trampolîn a gorffen yn yr wythfed safle.[6] Mewn cyfweliad, nododd iddi ddechrau hyfforddi mewn gymnasteg yn ifanc iawn, yn bennaf er mwyn iddi gael ymolchi.[7]
Astudiodd Akbar gysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gan astudio o bell tra'n byw yn Northampton, Lloegr, ar gyfer hyfforddiant trampolîn.[8][9] Yna, aeth ati i astudio newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Nottingham.[8]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu’n gweithio yn ITV Cymru Wales fel newyddiadurwraig ac yn Chwaraeon Cymru fel swyddog materion cyhoeddus.[10]
Yn Ebrill 2025 ymunodd Akbar â bwrdd Comisiwn Dylunio Cymru (DCFW).[11] DCFW yw’r corff cynghori cenedlaethol sy’n hyrwyddo rhagoriaeth dylunio ar draws yr amgylchedd adeiledig.
Yng ngwanwyn 2026, cafodd ei dewis yn ymgeisydd Plaid Cymru dros Gaerdydd Ffynnon Taf ar gyfer etholiad Senedd 2026, yn ail ar restr y blaid y tu ôl i Dafydd Trystan Davies.[12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Zaynub AKBAR personal appointments". Companies House. Cyrchwyd 21 Ionawr 2026.
- ↑ Mosalski, Ruth (2026-05-08). "Caerdydd Ffynnon Taf - full election results". Wales Online. Cyrchwyd 2026-05-08.
- 1 2 Mosalski, Ruth (2026-05-05). "Athlete who spent most of childhood with nowhere to call home". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-05-11.
- ↑ Mosalski, Ruth (2026-05-05). "Athlete who spent most of childhood with nowhere to call home". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-05-11.
- ↑ Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 22 Mehefin 2026.
- ↑ "Canton trampolinist Zainub Akbar finishes eighth in Youth Olympic Games". Wales Online. 21 Awst 2014. Cyrchwyd 21 Ionawr 2026.
- ↑ Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 22 Mehefin 2026.
- 1 2 Mosalski, Ruth (2026-05-05). "Athlete who spent most of childhood with nowhere to call home". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-05-11.
- ↑ "Trampoline gymnast Akbar targets more success after hard work pays off". Ealing Times. 1 August 2017. Cyrchwyd 21 Ionawr 2026.
- ↑ Mosalski, Ruth (2026-05-05). "Athlete who spent most of childhood with nowhere to call home". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-05-11.
- ↑ "Written Statement: The Design Commission for Wales – New and Reappointed Board Members". gov.uk. Cyrchwyd 21 January 2026.
- ↑ Shipton, Martin (7 June 2025). "Two ex-Plaid Cymru chief executives 'heading for Senedd'". nation.cymru. Cyrchwyd 21 January 2026.
