Unffurfiadaeth
Mae Unffurfiadaeth (Uniformitarianism) yn gysyniad o fewn maes Daeareg. Mae'n datgan bod yr un cyfreithiau a phrosesau naturiol sy'n weithredol yn ein byd ni heddiw wedi bodoli erioed, a'u bod yn weithredol drwy'r bydysawd cyfan.
Ymysg daearegwyr daeth yn arwyddair: "y presennol yw allwedd y dyfodol" (the present is the key to the past). Mae'r syniad yn un syml ond pwerus. Er enghraifft, ffurfiwyd haenau o dywodfaen miloedd o flynyddoedd yn ôl drwy'r union brosesau (tonnau, gwynt, pwysau) y gallwn eu gwylio heddiw yn pentyru tywod i greu traethau.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Cynigiwyd y ddamcaniaeth wreiddiol yn y 18fed ganrif gan y daearegwr Albanaidd James Hutton.[2] Daeth yn boblogaidd ymysg gwyddonwyr Prydeinig pan y datblygwyd hi ymhellach gan Charles Lyell, Albanwr arall, yn ei lyfr dylanwadol Principles of Geology (1830).
Bathwyd y term Saesneg uniformitarianism gan William Whewell mewn adolygiad o lyfr Lyell.[3] Roedd Whewell yn fwy cefnogol i'r wrth-farn, sef trychinebiaeth (catastrophism) - sy'n tybio fod daeareg bresennol y ddaear wedi'i ffurfio trwy ddigwyddiadau unigryw, sydyn, a dinistriol tu hwnt, megis dilyw Noa. Trychinebiaeth oedd y gred gyffredinol ymysg gwyddonwyr cynharach, gan gynnwys y Ffrancwr Georges Cuvier (1769 - 1832).[4]
Roedd unffurfiadaeth yn awgrymu'n gryf fod y ddaear yn llawer hyn nag y tybiwyd. Os nad taw prosesau trychinebus sydyn oedd wedi ffurfio creigiau, mynyddoedd a cheunentydd, rhaid bod miliynau o flynyddoedd wedi mynd heibio er mwyn i'r tirweddau hyn ddatblygu drwy'r prosesau arafach sy'n dal i effeithio'r ddaear heddiw (daeargrynfeydd, gwasgedd, erydiad ac yn y blaen). [5]
Cafodd unffurfiadaeth ddylanwad ar Charles Darwin wrth iddo ddatblygu theori esblygiad.[4]
Beirniadaeth
[golygu | golygu cod]Yn yr 20fed ganrif dechreuodd rhai gwyddonwyr feirinadu rhai agweddau ar unffurfiadaeth. Tybient ei fod wedi gwneud daearegwyr yn fwy cyndyn i dderbyn theorïau megis tectoneg platiau neu'r newidiadau eithafol a achoswyd gan asteroid Chicxulub (marwolaeth y deinosoriaid). Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf wedi cefnu ar y syniad fod pob newid daearegol wedi digwydd yn raddol ac ar yr un raddfa, tra'n cytuno gyda prif gysyniad Hutton nad yw deddfau natur yn newid o oes i oes.[6][7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Present Is the Key to the Past | AMNH". American Museum of Natural History (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-08.
- ↑ "3. Theory of the Earth, 1795", James Hutton and the History of Geology (Cornell University Press): pp. 58–83, 2019-12-31, https://doi.org/10.7591/9781501733994-005, adalwyd 2026-07-08
- ↑ The British critic, quarterly theological review and ecclesiastical record. Trinity College - University of Toronto. London : Printed for J. G. & F. Rivington. 1827–1843.CS1 maint: others (link) CS1 maint: date format (link)
- 1 2 "1 Understanding Science – An Introduction to Geology" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-08.
- ↑ "Uniformitarianism: Charles Lyell". evolution.berkeley.edu. Cyrchwyd 2026-07-08.
- ↑ Gould, S. J. (1965-03-01). "Is uniformitarianism necessary?" (yn en). American Journal of Science 263 (3). doi:10.2475/ajs.263.3.223. https://ajsonline.org/article/61297-is-uniformitarianism-necessary.
- ↑ Shea, James H. (1982-09-01). "Twelve fallacies of uniformitarianism". Geology 10 (9): 455–460. doi:10.1130/0091-7613(1982)10<455:TFOU>2.0.CO;2. ISSN 0091-7613. https://doi.org/10.1130/0091-7613(1982)102.0.CO;2.
