Troyes
Gwedd
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 62,088 |
| Pennaeth llywodraeth | François Baroin |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | canton of Troyes-6, canton of Troyes-7, County of Champagne, arrondissement of Troyes, County of Troyes, Aube |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 13.2 km² |
| Uwch y môr | 116 metr, 100 metr, 126 metr, 110 metr |
| Gerllaw | Afon Seine |
| Yn ffinio gyda | La Chapelle-Saint-Luc, Lavau, Les Noës-près-Troyes, Pont-Sainte-Marie, Rosières-près-Troyes, Saint-André-les-Vergers, Saint-Julien-les-Villas, Saint-Parres-aux-Tertres, Sainte-Savine |
| Cyfesurynnau | 48.2989°N 4.0781°E |
| Cod post | 10000 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Troyes |
| Pennaeth y Llywodraeth | François Baroin |
![]() | |
Tref a chymuned yn nwyrain Ffrainc yw Troyes. Hi yw prifddinas département Aube. Saif ar afon Seine, ac roedd y boblogaeth yn 1999 yn 60,958.
Yma yr arwyddwyd Cytundeb Troyes yn 1420, penllanw llwyddiant Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd. Dan y cytundeb yna, daeth Harri V, Brenin Lloegr yn etifedd coron Ffrainc yn lle'r Dauphin. Yn nes ymlaen, fodd bynnag, coronwyd y Dauphin yn frenin Ffrainc fel Charles VII, gyda chymorth Jeanne d'Arc, a llwyddodd i ad-ennill y deyrnas.
Bu'r awdur Chrétien de Troyes yn byw yma, ac fe allai fod yn enedigol o Troyes.

Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Eglwys Gadeiriol Saint-Pierre-et-Saint-Paul
- Hôtel de Ville
Enwogion
[golygu | golygu cod]- François Girardon (1628-1715), cerflunydd
- Édouard Herriot (1872-1957), gwleidydd

