close
Neidio i'r cynnwys

Penelope Keith

Oddi ar Wicipedia
Penelope Keith
BERJAYA
GanwydPenelope Anne Constance Hatfield Edit this on Wikidata
2 Ebrill 1940 Edit this on Wikidata
Sutton Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 2026 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Surrey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Webber Douglas Academy of Dramatic Art Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata
SwyddHigh Sheriff of Surrey, Deputy Lieutenant of Surrey Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobrau Laurence Olivier, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Actores o Loegr oedd y Fonesig Penelope Anne Constance Keith (ganwyd Hatfield ; 2 Ebrill 194029 Mehefin 2026)[1] yn fwyaf adnabyddus am ei rolau yn y comedïau sefyllfa BBC The Good Life a To the Manor Born. Daeth hi'n arlywydd Cronfa Elusennol yr Actorion ar ôl ymddeol ym 1989. Cafodd ei phenodi'n Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2014 gan Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig.

Cafodd ei geni yn Sutton, Surrey,[2] yn ferch i filwr proffesiynol a adawodd ei wraig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan oedd eu merch yn fabi. Cymerodd Penelope gyfenw ail ŵr ei mam Keith. Hyfforddodd fel actores yn Webber Douglas Academy of Dramatic Art.[3] Ym 1963, ymunodd â'r Royal Shakespeare Company.

Fel un o sêr The Good Life, ymddangosodd ar The Morecambe & Wise Show ym 1977. Yna serennodd yn To The Manor Born fel Audrey Fforbes-Hamilton.

Yn ddiweddarach, daeth yn gyflwynydd rheolaidd o raglenni fel Penelope Keith's Hidden Villages, Penelope Keith's Coastal Villages, Village of the Year with Penelope Keith a Saving Country Houses.[4]

Teledu

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Thomas, Rebecca (29 June 2026). "Dame Penelope Keith obituary: The Good Life's funny and formidable star". BBC News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mehefin 2026. Cyrchwyd 29 Mehefin 2026.
  2. "The Good Life of Penelope Keith". Newyddion BBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Tachwedd 2007. Cyrchwyd 29 Mehefin 2026.
  3. A Celebration of The Good Life (yn Saesneg). Orion Books. 2000.
  4. "Saving Britain's Country Houses with Penelope Keith". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Rhagfyr 2025. Cyrchwyd 28 Mai 2026.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)