Iâr gini helmog
| Iâr gini helmog Numida meleagris | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Galliformes |
| Teulu: | Numidinae |
| Genws: | Numida[*] |
| Rhywogaeth: | Numida meleagris |
| Enw deuenwol | |
| Numida meleagris | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Iâr gini helmog (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: ieir gini helmog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Numida meleagris; yr enw Saesneg arno yw Helmeted guineafowl. Mae'n perthyn i deulu'r Numidinae (Lladin: Numidinae) sydd yn urdd y Galliformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn N. meleagris, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Affrica.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r iâr gini helmog yn perthyn i deulu'r Numidinae (Lladin: Numidinae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Enwau
[golygu | golygu cod]"Iar Gini" yn tarddu o S. Guinea fowl
Galeeny: iar gini yn nhafodiaeth Saesneg Bro Gwyr ac Aberhonddu. Tybir iddo darddu rhywsut o Gallini, efallai trwy garcharorion rhyfel Eidalaidd.[3]
Er bod yr aderyn yn dod o Affrica, ei enw Llydaweg yw yar Spagn - iar o Sbaen - (pintade yn Ffrangeg - o’r Portwgaleg: pintada yr aderyn sydd wedi ei baentio). Mae unrhyw beth sydd yn dod o bell yn dwyn yr enw Spagn ond os ydi pethau yn dod o bellach maent yn dwyn yr enw Turki sef pen pellaf y byd Llydewig! Enw’r twrci yn y Llydaweg yw yar Indez, yn debyg iawn i’r enw Ffrangeg dinde (ben.), dindon (gwr.) gan gyfeirio at India, nid y wlad ond y cyfandir oedd newydd gael ei ddarganfod, sef America. Mae’r iaith Saesneg wedi mabwysiadu Gini (Guinea) hefyd ar gyfer anifail bach o dde-America lle mae’r Ffrangeg yn ei alw’n cochon d’Inde (“mochyn India”).[3]
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Ceiliog coedwig coch | Gallus gallus | |
| Ceiliog coedwig gwyrdd | Gallus varius | |
| Ceiliog coedwig llwyd | Gallus sonneratii | |
| Gallus lafayettii | Gallus lafayettii | |
| Paun gwyrdd | Pavo muticus | |
| Paun, Peunes | Pavo cristatus |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- 1 2 Bwletin Llên Natur rhifyn 133





