close
Neidio i'r cynnwys

Hofrennydd

Oddi ar Wicipedia
Hofrennydd
BERJAYA
Enghraifft o:awyrennau codiant Edit this on Wikidata
Mathawyren rotor Edit this on Wikidata
Gweithredwrgwasanaeth awyr y fyddin, awyrlu Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/09ct_ edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF23161 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hofrennydd 1922
BERJAYA
Hofrennydd o RAF Valley, Sir Fôn yn paratoi i lanio.
BERJAYA
Llenwi gyda thanwydd cyn mynd allan i'r nos yn Irac

Peiriant i deithio drwy'r awyr ydy hofrennydd, a gaiff ei yrru gyda chymorth llafnau metel sy'n troi uwch ei ben; ceir llafnau i reoli'r cyfeiriad hefyd - rhai llai - ar gynffon yr hofrennydd. Yn wahanol i'r awyren gyffredin, gall godi a glanio'n fertig sy'n ei wneud yn arbennig o ddefnyddiol i'w ddefnyddio mewn llefydd anial, heb lwybr glanio. Gelwir peiriant sydd a 3 neu ragor o lafnau yn 'amrodor'.

Datblygwyd y dechnoleg i'w lunio yn ystod hanner cynta'r 20g. Yr hofrennydd masnachol cyntaf oedd y Focke-Wulf Fw 61 a hynny yn 1936. Bellach, defnyddir yr hofrennydd i wahanol bwrpas gan gynnwys: gan yr heddlu, y fyddin, pleser ac fel ambiwlans awyr. Cânt eu defnyddio hefyd i arbed bywydau a gan ffermwyr i chwistrellu cemegolion ar gnydau neu i gario teithwyr. Maent yn arbennig o ddefnyddiol fel peiriannau lladd, fel y gwelwyd yn Rhyfel Fietnam.

Hofrennydd a bwerir gan ddyn

[golygu | golygu cod]

Ar 13 Mehefin 2013, AeroVelo Atlas oedd yr hofrennydd cyntaf a bwerwyd gan ddyn i godi am dros munud o amser ac a gododd 3.3 metr o'r ddaear, ac felly'n cipio Gwobr Igor I. Sikorsky Human Powered Helicopter Competition.[1] Roedd amodau'r gystadleuaeth hefyd yn mynnu fod yr hofrennydd yn cadw o fewn sgwâr 10 m (32.8 tr) wrth 10 m.[2] Crewyd y sialens ym 1980 gyda gwobr o US$10,000 i gychwyn ond codwyd hyn i $250,000 yn 2009. Wedi i'r wobr godi, roedd dau gystadleuydd benben a'i gilydd: AeroVelo o Ganada a Team Gamera o Maryland.[3]

Prifysgol Maryland yn gosod y safon ac yn torri record.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "AeroVelo Team Wins AHS International's 33-Year-Old Igor I. Sikorsky Human-Powered Helicopter Competition". AHS International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2013.
  2. "Human Powered Helicopter". AHS International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2013.
  3. Jason Paur (12 Gorffennaf 2013). "Canadian Team Claims $250,000 Prize for Human-Powered Helicopter". Wired. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2013.
Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch am hofrennydd
yn Wiciadur.