Ga'i fod..?
| Enghraifft o: | drama, theatr |
|---|---|
| Awdur | Bryn Fôn, Tony Llewelyn Roberts |
| Cysylltir gyda | Theatr Bara Caws |
| Dechrau/Sefydlu | 2012 |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Dynodwyr | |
Cynhyrchiad theatr unigryw ar leoliad gan Theatr Bara Caws yn 2012 oedd Ga'i Fod..? wedi'i greu ar y cyd â'r cyfarwyddydd drama o'r Iseldiroedd Madeleen Bloemendaal a Bryn Fôn. Tony Llewelyn a Bryn Fôn oedd yng ngofal y cyfieithu ac addasu. Nodwyd bod y cwmni wedi "mentro i dir newydd mewn sawl ffordd" wrth lwyfannu'r cynhyrchiad hwn[1] a disgrifiwyd y cynhyrchiad fel un corfforol, gweledol a hwyliog "...sy'n adrodd cyfrolau am fodau dynol".[1] Ail-lwyfannwyd y cynhyrchiad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy yn 2016.[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Bleddyn Rowlands
- Annwen Huws
- Carwyn Meirion Tomos
- Glenys Griffiths
- Mari Ogwen
- Glyn
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Lleolwyd y cynhyrchiad mewn coedwig a rhoddwyd cynghorion arbennig i'r gynulleidfa oedd ar droed, i beidio "gwyro oddi ar y llwybr" ac i beidio "cael eich temtio i ddringo coed!".[1] Archebu lle ar gwrs penwythnos ‘byw yn y coed’ wnaeth y pum cymeriad, "...ond nid cynnau tân, fforio am fwyd a dysgu sgiliau gwylltgrefft oedd y bwriad; ond cefnu ar fywyd dros-dro a ‘byw fel anifeiliaid’" yn ôl Lowri Haf Cooke fu'n adolygu'r sioe.[2]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y cynhyrchiad yn 2012 gyda'r cast canlynol:
- Bleddyn Rowlands - Iwan Charles
- Annwen Huws - Carys Gwilym
- Carwyn Meirion Tomos - Merfyn Pierce Jones
- Glenys Griffiths - Rhian Cadwaladr
- Mari Ogwen - Mared Elliw Hughes
Cyfarwyddo gan Madeleen Bloemendaal a Bryn Fón gyda chymorth cynhyrchu gan Emyr Morris-Jones, Berwyn Morris-Jones, Lois Prys, Gwyn Eiddior a Kate Smith.[1]
Ail-lwyfannwyd ac addaswyd y cynhyrchiad yn 2016 gyda'r cast canlynol:
- Bleddyn Rowlands - Iwan Charles
- Annwen Huws - Carys Gwilym
- Carwyn Meirion Tomos - Llŷr Ifans
- Glenys Griffiths - Rhian Cadwaladr
- Mari Ogwen - Mared Elliw Hughes
- Glyn - Emyr Roberts.
Wedi'r perfformiad yn yr Eisteddfod, nododd Lowri Haf Cooke "Er mor syml oedd y darn, gwelwyd astudiaeth graff ar waith, a heriwyd ein cysyniad arferol ni o beth yw’n blaenoriaethau."[2]
