Elen Bowman
| Elen Bowman | |
|---|---|
| Ganwyd | Buddug Morgan Ebrill 1967 |
| Addysg | RADA, Prifysgol Aberystwyth |
| Galwedigaeth | cyfarwyddydd theatr a theledu |
| Perthnasau | Rhian Morgan |
Cyfarwyddydd theatr, teledu a ffilm yw Elen Bowman neu Buddug Morgan, a rhoi iddi ei henw bedydd (ganwyd Ebrill 1967)[1] yn Abertawe. Hyfforddwyd Elen gyntaf fel actor yn RADA, ac yna fel cyfarwyddydd gan Sam Kogan a Mike Alfreds, fel nifer o Gymry eraill. Ffurfiodd gwmni ffilm a theledu Living Pictures ym 1999 gyda Robert Bowman, ac yna'r elusen Living Pictures yn 2001. Bu Elen yn hyfforddi cyfarwyddyddion theatr y Royal Court yn Llundain gan gynnwys Katie Mitchell ac Ian Rickson. Bu hefyd yn gweithio gyda chwmnïau theatr nodedig fel Shared Experience, Theatr y Sherman a'r Theatr Genedlaethol Frenhinol yn ogystal â gwaith sgrin gyda chwmnïau teledu annibynnol Cymreig fel Opus ac ITV Cymru a'r BBC.[2] Enwebwyd Elen ar gyfer dwy wobr BAFTA Cymru ar gyfer ei ffilm fer What?! (2002) ac fel cynhyrchydd creadigol ar y gyfres A470 i S4C. Mae hi hefyd wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru (2017-18) am ymchwilio Urddas yr Allan, a gwobrau gan James Pantyfedwen ac Ymddiriedolaeth S4C. Mae hi'n chwaer i'r actores Rhian Morgan.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu Elen yn brif ddarlithydd mewn actio a chyfarwyddo gyda Phrifysgol Cymru WAVDA ar raddau MA a BA Perfformio a Chyfarwyddo am 7 mlynedd.
Mae hi'n parhau i weithio fel dramatwrg a hyfforddwr cyfarwyddo. Cyflawnodd radd MA (Anrh) mewn Seicotherapi (Dyneiddiol) wedi ysbrydoli prosiectau creadigol hybrid, gan groesbeillio dulliau seicolegol a chreadigol. [2]
Roedd Elen yn gyfarwyddwr comisiynu (Cymraeg) ar gyfer y cwmni ysgrifennu newydd Sgript Cymru ac yn ystod y cyfnod hwnnw dyfarnwyd Gwobr Theatr yng Nghymru iddi am y sioe theatr Amdani. Yn ddiweddarach, fe'i penodwyd yn Gynorthwyydd Artistig yn Theatr Sherman lle bu'n cyfarwyddo Amgen: Broken gan Gary Owen a chyd-gynhyrchodd y cynhyrchiad ymylol cyntaf arobryn Deep Cut gan Phil Ralph ar gyfer Sherman Cymru a Gŵyl Caeredin.
Ar gyfer blwyddyn gyntaf National Theatre Wales, cyfarwyddodd Elen ddrama gyntaf John Osborne The Devil Inside Him. Penodwyd Elen yn Gyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae'r cynyrchiadau'n cynnwys taith o Deffro'r Gwanwyn wedi'i chyfieithu gan yr awdur Daf James ac Y Storm wedi'i addasu gan y bardd Gwyneth Lewis fel rhan o ŵyl llwyfannau Byd RSC 2012.
Gwaith
[golygu | golygu cod](detholiad)
Fel Cyfarwyddydd
Theatr
[golygu | golygu cod]- Broken (Sherman Cymru)
- The Devil Inside Him (NTW)
- Deffro'r Gwanwyn (Theatr Genedlaethol Cymru)
- Y Storm (Theatr Genedlaethol Cymru)
- Dyled Eileen (Theatr Genedlaethol Cymru)
Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]- Traeth Coch (Opus/S4C)
- A470 (S4C)
- What?! (Canal+)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "LIVING PICTURES PRODUCTIONS LIMITED people - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-17.
- 1 2 "Gwefan Living Pictures".
