Cwmni Mega
| Enghraifft o: | cwmni theatr Gymraeg |
|---|---|
| Gwlad | Cymru |
| Cysylltir gyda | Dafydd Hywel |
| Dechrau/Sefydlu | 1994 |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Rhanbarth | Sir Gaerfyrddin |
| Gwefan | https://cwmnimega.cymru |
| Dynodwyr | |
Cwmni theatr Gymraeg a sefydlwyd gan Dafydd Hywel ym 1994 ydi Cwmni Mega. Pantomeimiau Cymraeg y bu'r cwmni yn ei lwyfannu fwyaf, a hynny yn ystod y Gaeaf a'r Gwanwyn yn flynyddol. Ers 2023, mae'r cwmni yng ngofal Lisa Marged a Gwydion Rhys.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Llanw'r bwlch a adawodd Cwmni Theatr Cymru ym 1984 a Panto 85, Hwyl a Fflag, Cwmni Theatr Gwynedd a Whare Teg ym 1993, oedd un symbyliad dros greu'r cwmni, er mwyn cynhyrchu adloniant theatrig i blant Cymru dros gyfnod y Nadolig. Dafydd Hywel oedd y cyswllt rhwng Whare Teg a'r cwmni newydd.[2] Derbyniodd nawdd o £30,000 ym 1996 gan Gwmni Theatr Gwynedd [oedd yn dal y drwydded dair blynedd gan Gyngor y Celfyddydau] i gynhyrchu'r panto blynyddol.[2]
Teithiwyd cynyrchiadau o Panto (2004) gan Gwenlyn Parry a Perthyn gan Meic Povey yn ogystal.[3]
Yn dilyn marwolaeth Dafydd Hywel yn 2023, bu i Lisa Marged a Gwydion Rhys gymeryd yr awennau.[1]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
1990au
[golygu | golygu cod]- Robin Croeso (1997) gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn - ail lwyfanniad o'r sioe gynharach Robin ap Croeso
2000au
[golygu | golygu cod]- Pwy Laddodd Wili Gwylliaid?’ (2003/4) yn seiliedig ar hanes cyffrous Gwylliaid Cochion Mawddwy gan Arwel John.[3]
2010au
[golygu | golygu cod]- Patagonia (2014) gan Dafydd Emyr a Gwyneth Glyn
- Culhwch ac Olwen (2017) gan Huw Garmon
- Branwen (2018) gan Huw Garmon - yn cynnwys cameo gan Hywel Gwynfryn[1]
- Arwyr (2019) gan Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones
2020au
[golygu | golygu cod]- Y Bachgen Bach Gwyrdd (2022/23) gan Caryl Parry Jones a Non Parry[1]
- Culhwch ac Olwen (2024/25) gan Caryl Parry Jones a Non Parry[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 4 "Dim pantomeim cwmni Mega eleni". Golwg360. 2023-12-07. Cyrchwyd 2026-06-29.
- 1 2 "Croeso i'r panto go iawn". Barn 408. Ionawr 1997.
- 1 2 "Details of Cwmni Mega on the Theatre in Wales database". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2026-06-29.
- 1 2 3 "Hafan". Cwmni Mega (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-29.
