Ceri Elen
| Ceri Elen | |
|---|---|
| Ganwyd | Ceri Elen Morris Mawrth 1985 Hen Golwyn |
| Llysenw/au | Ceri Elen |
| Addysg | Ysgol y Creuddyn, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru |
| Galwedigaeth | actores a llenor |
Dramodydd, llenor ac actores yn enedigol o Hen Golwyn yw Ceri Elen neu Ceri Elen Morris (ganwyd Mawrth 1985)[1][2] Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006, a'r Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr yn 2007.[3] Ysgrifennodd ddramâu ar gyfer BBC Radio Cymru gan gynnwys Aros Mae a 27 munud, a dramâu cerdd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.[3] Cafodd ei ffilm Pianissimo ei darlledu ar S4C yn 2012 a 2016.[4] Yn 2012, cyhoeddodd ei nofel gyntaf Pentre Saith gyda Gwasg y Lolfa. Enillodd Wobr Goffa Llew yn Eisteddfod yr Urdd Bro Conwy 2000.[5]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Bod Alaw, Bae Colwyn ac Ysgol y Creuddyn[1] a daeth y diddordeb am fyd y ddrama yn fyw o dan ddylanwad ei hathrawes drama, Catrin Hughes Jones. Graddiodd o Brifysgol Cymru Caerdydd. Bu'n astudio actio ar gyrsiau preswyl yn yr Eidal gyda Firenza Guidi, ac aeth ymlaen i astudio cwrs Meistr mewn actio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd yn 2011. Bu hefyd diwtor cysylltiol yn Ysgol Y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.[3]
Gwaith
[golygu | golygu cod](detholiad)
Fel actores
[golygu | golygu cod]- Visitting Katt and Fredda - Theatr Iolo
- The Grimm Fairy Tales (2012 a 2013) - Theatr Iolo
- The Princess and the Pea (2015) - Theatr Iolo
- Blodyn (2013) - Theatr Genedlaethol Cymru
- Estron (2017) - Theatr Genedlaethol Cymru
- Mwgsi (2018) - Frân Wen
- Rownd a Rownd (2019) S4C[6]
- Dim Diolch - Frân Wen
Fel dramodydd
[golygu | golygu cod]- Mae Gen i Gariad (2008) - BBC Radio Cymru
- Aros Mae - BBC Radio Cymru
- 27 Munud - BBC Radio Cymru
- Pianissimo (2012) - S4C
- Encore (2013) - BBC Radio Cymru
- Distaw
- Y Bont (2013) - Theatr Genedlaethol Cymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Crump, Eryl (2006-06-01). "Drama on eating disorders won prize". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-25.
- ↑ "Ceri Elen MORRIS personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-25.
- 1 2 3 Rhaglen Y Bont. Theatr Genedlaethol Cymru. 2013.
- ↑ "S4C - Pianissimo". BBC. Cyrchwyd 2026-06-25.
- ↑ "Medal Ddrama i Ceri Elen" (yn Saesneg). 2006-05-31. Cyrchwyd 2026-06-25.
- ↑ "Press Pack W50: 7 December - 13 December | Press | S4C". www.s4c.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-25.
