Ardal De Swydd Gaergrawnt
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Gaergrawnt |
| Prifddinas | Cambourne |
| Poblogaeth | 157,519 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaergrawnt (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 901.6273 km² |
| Cyfesurynnau | 52.132°N 0.105°E |
| Cod SYG | E07000012 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of South Cambridgeshire District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, yw Ardal De Swydd Gaergrawnt (Saesneg: South Cambridgeshire District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 902 km², gyda 159,086 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Huntingdonshire ac Ardal Dwyrain Swydd Gaergrawnt i'r gogledd, Suffolk i'r dwyrain, Essex a Swydd Hertford i'r de, Swydd Bedford i'r gorllewin, a Dinas Caergrawnt fel clofan ynddi. Dyma'r unig ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy'n amgylchynu ardal arall yn llwyr.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir yr ardal, sy'n wledig ei natur yn bennaf, yn 103 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Cambourne. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys pentrefi Sawston, Cottenham a Waterbeach.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 8 Gorffennaf 2020

