Ian Smith
| Ian Smith | |
|---|---|
| Ganwyd | 8 Ebrill 1919 Shurugwi |
| Bu farw | 20 Tachwedd 2007 o clefyd serebro-fasgwlaidd Tref y Penrhyn |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Rhodesia, Simbabwe |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, ffermwr |
| Swydd | Prif Weinidog Rhodesia, Member of the National Assembly of Zimbabwe |
| Plaid Wleidyddol | Southern Rhodesia Liberal Party, United Federal Party, Rhodesian Front, Republican Front |
| Priod | Janet Smith |
| Plant | Alec Smith |
| Perthnasau | Alex T. Wolf |
| llofnod | |

Prif weinidog Rhodesia (yn awr Simbabwe) oedd Ian Douglas Smith (8 Ebrill 1919 – 20 Tachwedd 2007),
Ganed Smith yn Selukwe, De Rhodesia. Bu yn Brif Weinidog gwladwriaeth Brydeinig De Rhodesia o 13 Ebrill 1964 hyd 11 Tachwedd 1965, pan gyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol heb gytundeb Prydain. O'r dyddiad hwnnw hyd 1 Mehefin 1979 roedd yn Brif Weinidog Rhodesia.
Dim ond y boblogaeth wyn oedd yn cael pleidleisio yn yr etholiadau. Rhwng 1971 a 1979 bu llywodraeth Smith yn ymladd yn erbyn cenedlaetholwyr duon, a daeth hefyd dan bwysau economaidd gan y gorllewin, nad oedd yn derbyn annibyniaeth Rhodesia. Yn 1979 daeth y ddwy ochr i gytundeb, ac ymddiswyddodd Smith fel Prif Weinidog. Olynwyd ef gan lywodraeth yn cynnwys y duon a'r gwynion, dan arweiniad Abel Muzorewa o'r UANC. Yn etholiad 1980 enillodd ZANU fwyafrif a daeth Robert Mugabe yn Brif Weinidog. Parhaodd Smith yn aelod o senedd Simbabwe hyd 1987. Bu farw yn Ne Affrica.
