Uwch Aled
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Uwchaled)
| Math | cefn gwlad, cwmwd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.034683°N 3.572489°W |
| Etholaeth y Senedd | Bangor Conwy Môn |
![]() | |
Ardal wledig yng nghornel dde-ddwyreiniol sir Conwy, ond yn hanesyddol yn rhan o'r hen sir Sir Ddinbych, yw Uwch Aled. Fe'i gelwir 'Uwch Aled' am ei fod yr ochr uchaf i Afon Aled. Yn yr Oesoedd Canol roedd Uwch Aled yn un o dri chwmwd cantref Rhufoniog.

Mae'r pentrefi a chymunedau yn cynnwys:
- Cefn-brith
- Cerrigydrudion, pentref mwyaf yr ardal
- Llangwm
- Pentrefoelas
- Pentre-llyn-cymer,
- Dinmael
- Glasfryn
- Llanfihangel Glyn Myfyr
- Y Maerdy
- Cwm Penanner
Mae Uwch Aled yn ardal fynyddig, anghysbell, gyda chanran uchel o siaradwyr Cymraeg. Rhed afon Ceirw trwy ran ddeheuol yr ardal.

