close
Neidio i'r cynnwys

Offeryn chwythbren

Oddi ar Wicipedia
Offeryn chwythbren
BERJAYA
BERJAYA
BERJAYA
BERJAYA
Enghraifft o:dosbarth o offerynnau cerdd Edit this on Wikidata
Mathofferyn chwyth Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/085jw edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF1606 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ôl traddodiad cerddoriaeth glasurol y Gorllewin, rhennir offerynnau chwyth yn offerynnau pres ac offerynnau chwythbren. Mae offerynnau pres yn cynhyrchu sain pan fydd gwefusau'r chwaraewr yn dirgrynu yn erbyn darn ceg. Mae offerynnau chwythbren yn cynhyrchu sain naill ai wrth i'r chwaraewr chwythu ar gorsen (fel clarinét), neu drwy chwythu yn erbyn ymyl finiog (fel ffliwt). Y dull o gynhyrchu sain sy'n nodweddu'r ddau grŵp ac nid y deunyddiau y maent wedi'u gwneud ohonynt. Ar un adeg roedd offerynnau chwythbren mewn gwirionedd wedi'u gwneud o bren, ond erbyn heddiw gallant hefyd fod wedi'u gwneud o ddeunyddiau eraill, gan gynnwys metel a phlastig. Yn yr un modd, nid yw rhai offerynnau pres wedi'u gwneud o fetel.

Yn y gerddorfa symffoni draddodiadol, mae'r offerynnau yn yr adran chwythbren yn cynnwys:

Nid aelod safonol o'r gerddorfa, ond hefyd offeryn chwythbren yw

Gall cerddorfeydd sy'n chwarae cerddoriaeth o'r 18g hefyd gynnwys

  • y recorder
  • yr oboe da caccia and yr oboe d'amore (perthnasau'r obo)
  • y corn baset (perthnasau'r clarinét)

Mae llawer o offerynnau chwyth tebyg o gyfnodau cynharach (e.e. y chwythgorn a'r crymgorn) neu o draddodiadau eraill (e.e. y shakuhachi o Japan, y zurna o Dwrci) yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cael eu dosbarthu fel offerynnau chwythbren, ond anaml y gwneir hyn.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Anthony C. Baines, Woodwind Instruments and Their History (Llundain: Faber and Faber, 1967)