close
Neidio i'r cynnwys

Kenny Jackett

Oddi ar Wicipedia
Kenny Jackett
BERJAYA
Manylion Personol
Enw llawn Kenneth Francis Jackett
Dyddiad geni 5 Ionawr 1962(1962-01-05)
Man geni Watford, Llundain, Baner Lloegr Lloegr
Dyddiad marw 11 Mehefin 2026(2026-06-11) (64 oed)
Manylion Clwb
Clwb Presennol Millwall (rheolwr)
Clybiau
Blwyddyn
Clwb
Ymdd.*
(Goliau)
1980-1990 Watford 337 (25)
Tîm Cenedlaethol
1983-1988 Cymru 31 (0)
Clybiau a reolwyd
1996-1997
2004-2007
2007-
Watford
Dinas Abertawe
Millwall

1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn
a gyfrodd tuag at y gyngrhair cartref yn unig
.
* Ymddangosiadau

Hyfforddwr a chyn-chwaraewr pêl-droed oedd Kenneth Francis "Kenny" Jackett (5 Ionawr 196211 Mehefin 2026). Cafodd ei eni yn Watford, Lloegr. Chwaraeodd dros Gymru am fod ei dad, Frank Jackett, wedi'i eni yn Ystalyfera. Bu'n chwarae i Watford trwy gydol ei yrfa, nes i'w yrfa ddod i ben o ganlyniad i anaf.

Bu farw yn Mai 2026, yn 64 mlwydd oed.[1]

Chwaraewr

[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd fel amddiffynnwr ac yng nghanol y cae. Llwyddodd Jackett i fod yn rhan o dîm cyntaf Watford ar ddiwedd tymor 1979-80. Yn ystod y 1980au, helpodd y tîm i ddod yn ail yn yr hen Adran Gyntaf, yn ogystal ag ymddangos yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA ym 1984. Cafodd 31 cap am chwarae dros Gymru.

Daeth ei yrfa i ben yn annisgwyl, pan achosodd anaf difrifol i'w benglin iddo orfod ymddeol ym 1990, pan oedd ond yn 28 oed. Pe na bai wedi ei anafu, mae'n debygol y byddai wedi cipio'r teitl am y chwaraewr a chwaraeodd fwyaf erioed i dîm Watford - teitl sydd gan Luther Blissett ar hyn o bryd.

Rheolwr

[golygu | golygu cod]

Yn dilyn amser gyda thîm rheoli Watford a QPR fe'i benodwyd yn rheolwr Dinas Abertawe yn 2004. Ar ôl tair blynedd, dewisodd Jackett adael y clwb. Rhwng 2007 a 2014 roedd yn rheolwr Millwall.

Ystadegau fel rheolwr

[golygu | golygu cod]

Diweddarwyd diwethaf 30 Mai 2010

Tîm Gwlad O Tan Record
GêmEnnillColliCyfartalEnnill %
Watford Baner Lloegr Mehefin 1996 Mehefin 1997 5722191638.6
Dinas Abertawe Baner Cymru 5 Ebrill 2004 15 Chwefror 2007 16375484846.01
Millwall Baner Lloegr 6 Tachwedd 2007 Presennol 14972443348.32

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cyn-chwaraewr Cymru Kenny Jackett wedi marw yn 64 oed". BBC Cymru Fyw. 2026-06-12. Cyrchwyd 2026-06-12.