close
Neidio i'r cynnwys

Arena

Oddi ar Wicipedia
Arena
BERJAYA
Enghraifft o:math o leoliad chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathlleoliad chwaraeon Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/018lrm edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae arena yn lleoliad mawr caeedig, yn aml yn grwn neu'n hirgrwn, wedi'i gynllunio i arddangos theatr, perfformiadau cerddorol neu ddigwyddiadau chwaraeon. Daw'r gair yn wreiddiol o'r gair Lladin harena, tywod mân iawn a oedd yn gorchuddio llawr arenâu hynafol fel y Colosseum yn Rhufain, yr Eidal, er mwyn amsugno gwaed. Mae'n aml yn gysylltiedig â'r brwydrau rhwng gladiatoriaid yn yr Ymerodraeth Rufeinig hynafol.[1]

Mae'n cynnwys gofod agored mawr wedi'i amgylchynu gan fwyaf neu bob ochr gan haenau o seddi neu le i sefyll ar gyfer gwylwyr, a gall fod wedi'i orchuddio â tho. Prif nodwedd arena yw mai'r gofod digwyddiadau yw'r pwynt isaf, gan sicrhau'r gwelededd gorau posibl. Fel arfer mae arenâu wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer llu o wylwyr.

Yn ddiweddar, daeth y term arena i gael ei ddefnyddio i ddisgrifio lleoliad mawr iawn fel y Rose Bowl ym Mhasadena, ond gelwir cyfleuster o'r fath fel arfer yn stadiwm. Mae defnyddio un term dros y llall yn ymwneud yn bennaf â'r math o ddigwyddiad. Fel arfer, chwaraeir pêl-droed, rygbi, pêl-droed Americanaidd, pêl droed rheolau Awstralia, neu bêl-droed Wyddelig mewn stadiwm, tra bod pêl-fasged, pêl-foli, pêl-law, a hoci iâ fel arfer yn cael eu chwarae mewn arena. Mae yna eithriadau.

Galeri

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Claridge, Amanda (1998). Rome: An Oxford Archaeological Guide (arg. 1). Rhydychen: Oxford University Press. tt. 276–282. ISBN 0-19-288003-9.